RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 6DARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL
81Cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ysgol arbennig gymunedol yn cael ei therfynu
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i derfynu ysgol arbennig gymunedol a gynhelir ganddo ar ddiwrnod penodedig, os ydynt yn credu ei bod yn hwylus gwneud hynny er iechyd, diogelwch neu les disgyblion yn yr ysgol.
(2)
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol hysbysu personau penodedig neu ddosbarth penodedig ar bersonau.
(3)
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)
yr awdurdod lleol,
(b)
unrhyw awdurdod lleol arall y byddai terfynu’r ysgol yn effeithio arno yn eu barn hwy, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(4)
Wrth roi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r ysgol a’i phennaeth.
(5)
Rhaid i awdurdod lleol y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-adran (1) derfynu’r ysgol o dan sylw ar y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
(6)
Nid oes dim yn adran 44 sy’n gymwys i derfynu ysgol o dan yr adran hon.