RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 5CYNIGION I AILSTRWYTHURO ADDYSG CHWECHED DOSBARTH

Gweithredu cynigion ar gyfer ailstrwythuro addysg chweched dosbarth

74Y ffurf weithredu

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion sydd wedi eu mabwysiadu gan Weinidogion Cymru o dan adran 73.

(2)

Rhaid i’r cynigion (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon) gael eu gweithredu ar y ffurf y cawsant eu mabwysiadu.

(3)

Ar gais corff penodedig, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

addasu cynigion sydd wedi eu mabwysiadu o dan adran 73 ar ôl ymgynghori â’r cyrff penodedig, a

(b)

pan fo wedi ei datgan bod mabwysiad y cynigion yn dod yn weithredol yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r digwyddiad hwnnw ddigwydd.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw is-adran (2) yn gymwys i’r cynigion os ydynt wedi eu bodloni, ar ôl ymgynghori â’r cyrff penodedig—

(a)

y byddai gweithredu’r cynigion yn afresymol o anodd, neu

(b)

bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i’r cynigion gael eu mabwysiadu y byddai’n amhriodol gweithredu’r cynigion.

(5)

“Corff penodedig” yw pob un o’r canlynol at ddibenion is-adrannau (3) a (4)—

(a)

corff llywodraethu’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(b)

yn achos cynnig i sefydlu ysgol newydd, y corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf Addysg 2002;

(c)

yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir y bydd yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(d)

pan fo’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi yn ysgol arbennig gymunedol, pob awdurdod lleol sy’n cynnal F1datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 F1cynllun datblygu unigol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 mewn cysylltiad â disgybl cofrestredig yn yr ysgol.