RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 5CYNIGION I AILSTRWYTHURO ADDYSG CHWECHED DOSBARTH
Gwneud cynigion a’u penderfynu
73Penderfyniad gan Weinidogion Cymru
(1)
Ar ôl diwedd yr 28 o ddiwrnodau y cyfeiriwyd atynt yn adran 72(4), rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid—
(a)
mabwysiadu’r cynigion, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)
tynnu’r cynigion yn eu hôl.
(2)
Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 72(4) ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl.
(3)
Cyn mabwysiadu cynigion yn ddarostyngedig i addasiadau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn credu eu bod yn briodol.
(4)
Caniateir i fabwysiad cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.
(5)
Os na fydd y digwyddiad yn digwydd erbyn y dyddiad penodedig rhaid i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad o dan is-adran (1).
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu eu cynigion yn ôl ar unrhyw bryd cyn iddynt wneud penderfyniad o dan is-adran (1).