xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 5LL+CCYNIGION I AILSTRWYTHURO ADDYSG CHWECHED DOSBARTH

Gwneud cynigion a’u penderfynuLL+C

72Ymgynghori, cyhoeddi a gwrthwynebiadauLL+C

(1)Cyn cyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 71, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 71 yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(3)Caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion.

(4)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Weinidogion Cymru cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cynigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 72 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(d)