xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 4LL+CDARPARIAETH RANBARTHOL AR GYFER ANGHENION [F1ADDYSGOL ARBENNIG] [F1DYSGU YCHWANEGOL]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn nheitl Rhn. 3 Pnd. 4 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(a); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

70Mabwysiadu cynigionLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 69 (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl)—

(a)mabwysiadu’r cynigion gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(b)penderfynu peidio â mabwysiadu’r cynigion.

(2)Caniateir i fabwysiad cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

(3)Mae cynigion sydd wedi eu mabwysiadu gan Weinidogion Cymru yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl cael eu gwneud—

(a)gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu

(b)yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sy’n cael eu mabwysiadu o dan is-adran (1) ac sy’n cael effaith fel a grybwyllwyd yn is-adran (3)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 70 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)