RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 4DARPARIAETH RANBARTHOL AR GYFER ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG
68Cynigion gan Weinidogion Cymru
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)
Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 66, a
(b)
naill ai—
(i)
cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu
(ii)
yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.
(3)
Cyn cyhoeddi cynigion o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.
(4)
Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—
(a)
at yr awdurdodau lleol y mae’r cynigion yn effeithio ar eu hardaloedd, a
(b)
at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.