RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 4DARPARIAETH RANBARTHOL AR GYFER ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

I1I265Cyfarwyddyd i ystyried gwneud darpariaeth ranbarthol

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried a fyddent hwy (neu unrhyw rai ohonynt) yn gallu cyflawni eu swyddogaethau addysg arbennig, mewn cysylltiad â phlant sydd â’r anghenion addysgol arbennig a bennir yn y cyfarwyddyd, yn fwy effeithlon neu effeithiol pe câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud.

2

Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r amser a bennir yn y cyfarwyddyd.

3

Caniateir i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gael ei roi i awdurdodau lleol yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.