Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

64Ystyr “darpariaeth ranbarthol” a “swyddogaethau [F1addysg arbennig] [F1anghenion dysgu ychwanegol]LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “darpariaeth ranbarthol” (“regional provision”) yw—

    (a)

    darpariaeth addysg i blant sy’n perthyn i ardaloedd gwahanol awdurdodau lleol, mewn ysgol a gynhelir gan un o’r awdurdodau hynny, neu

    (b)

    darpariaeth a wneir gan ddau awdurdod lleol neu fwy i nwyddau neu wasanaethau gael eu cyflenwi gan un o’r awdurdodau—

    (i)

    i’r llall neu’r lleill, neu

    (ii)

    i un neu fwy o gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod arall neu’r awdurdodau eraill;

  • [F2ystyr “swyddogaethau addysg arbennig” (“special education functions”) yw swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (anghenion addysgol arbennig). ]

  • [F2ystyr “swyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs functions”) yw swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn mhennawd a. 64 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(b)(i); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2)

Gwybodaeth Cychwyn

I1 A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 64 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)