64Ystyr “darpariaeth ranbarthol” a “swyddogaethau addysg arbennig”LL+C
Yn y Bennod hon—
ystyr “darpariaeth ranbarthol” (“regional provision”) yw—
(a)darpariaeth addysg i blant sy’n perthyn i ardaloedd gwahanol awdurdodau lleol, mewn ysgol a gynhelir gan un o’r awdurdodau hynny, neu
(b)darpariaeth a wneir gan ddau awdurdod lleol neu fwy i nwyddau neu wasanaethau gael eu cyflenwi gan un o’r awdurdodau—
(i)i’r llall neu’r lleill, neu
(ii)i un neu fwy o gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod arall neu’r awdurdodau eraill;
ystyr “swyddogaethau addysg arbennig” (“special education functions”) yw swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (anghenion addysgol arbennig).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 64 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)