xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 3 Pnd. 3A wedi ei fewnosod (5.4.2025) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 29(7) (ynghyd ag a. 19); O.S. 2025/432, ergl. 2(ll)(iii)
(1)Mae cynigion sydd wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 63F neu y penderfynwyd eu gweithredu gan y Comisiwn o dan adran 63G yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl iddynt gael eu gwneud—
(a)gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu
(b)yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.
(2)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol o dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sydd wedi eu cymeradwyo o dan adran 63F neu y penderfynwyd eu gweithredu o dan adran 63G ac sy’n cael effaith fel a grybwyllir yn is-adran (1)(b).]