[F163FEu cymeradwyo gan Weinidogion CymruLL+C
(1)Mae’n ofynnol i gynigion a gyhoeddir gan y Comisiwn o dan adran 63D gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon os yw gwrthwynebiad wedi ei wneud yn unol ag adran 63E(2) ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.
(2)Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiwn anfon copi o’r dogfennau a restrir yn is-adran (3) at Weinidogion Cymru cyn diwedd 35 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.
(3)Y dogfennau yw—
(a)yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 63D(5),
(b)y cynigion cyhoeddedig,
(c)unrhyw wrthwynebiadau a wneir yn unol ag adran 63E(2) (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl), a
(d)pan fo gwrthwynebiadau wedi eu gwneud felly (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl), yr ymateb a gyhoeddir o dan adran 63E(3).
(4)Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)gwrthod y cynigion,
(b)eu cymeradwyo heb eu haddasu, neu
(c)eu cymeradwyo gydag addasiadau—
(i)ar ôl cael cydsyniad y Comisiwn i’r addasiadau, a
(ii)ar ôl ymgynghori â’r awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir y bydd yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi, ac â chorff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.
(5)Caniateir i gymeradwyaeth ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais y Comisiwn, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae’r digwyddiad y cyfeiriwyd ato yn is-adran (5) i ddigwydd.
(7)Nid yw is-adran (1) yn atal cynigion rhag cael eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y Comisiwn i Weinidogion Cymru ar unrhyw bryd cyn iddynt gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon.
(8)Nid yw’n ofynnol i gynigion i derfynu ysgol sy’n ysgol fach o fewn yr ystyr a roddir gan adran 56 gael unrhyw gymeradwyaeth o dan yr adran hon.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 3 Pnd. 3A wedi ei fewnosod (5.4.2025) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 29(7) (ynghyd ag a. 19); O.S. 2025/432, ergl. 2(ll)(iii)