Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

[F163EGwrthwynebiadau i gynigion y ComisiwnLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff unrhyw berson wrthwynebu cynigion a gyhoeddir o dan adran 63D.

(2)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig i’r Comisiwn cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y cynigion eu cyhoeddi (“y cyfnod gwrthwynebu”).

(3)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o’r holl wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag is-adran (2) (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl) a’i ymateb i’r gwrthwynebiadau hynny cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.]