[F163DCyhoeddi cynigion y Comisiwn ac ymgynghori arnyntLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 63C yn unol â’r Cod.
(2)Cyn cyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 63C, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori ynglŷn â’i gynigion yn unol â’r Cod.
(3)Nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i gynigion i derfynu ysgol sy’n ysgol fach o fewn yr ystyr a roddir gan adran 56.
(4)Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod eu cyhoeddi, rhaid i’r Comisiwn anfon copïau o’r cynigion cyhoeddedig—
(a)at Weinidogion Cymru,
(b)at yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir y bydd yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi, ac
(c)at gorff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.
(5)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad y mae wedi ei gynnal yn unol â’r Cod.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 3 Pnd. 3A wedi ei fewnosod (5.4.2025) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 29(7) (ynghyd ag a. 19); O.S. 2025/432, ergl. 2(ll)(iii)