xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAETH YSGOLION

[F1PENNOD 3ALL+CCYNIGION I‍ AILSTRWYTHURO DARPARIAETH CHWECHED DOSBARTH

63CGwneud cynigion gan y ComisiwnLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)y Comisiwn wedi gwneud cyfarwyddyd o dan adran 63A(1), a

(b)naill ai—

(i)cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.

(2)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw gynigion y gellid bod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Ond rhaid i’r Comisiwn gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn gwneud cynnig i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 (agor neu gau chweched dosbarth ysgol) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig.

(4)Pan fo’r Comisiwn yn gwneud cynigion o dan yr adran hon, mae unrhyw gynigion sydd wedi eu gwneud gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ac sydd wedi eu cyhoeddi yn unol â’r cyfarwyddyd i’w trin fel pe baent wedi eu tynnu’n ôl.]