Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

[F163BDarpariaeth bellach ynghylch cynigion a wneir ar ôl cyfarwyddyd o dan adran 63A(1)LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63A(1) gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad y Comisiwn.

(2)Caiff y Comisiwn roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Rhaid i awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63A(1).

(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63A(1) a’r rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.]