Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

[F163ACyfarwyddydau gan y Comisiwn i wneud cynigion chweched dosbarthLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff y Comisiwn, yn unol â’r Cod—

(a)cyfarwyddo awdurdod lleol i arfer ei bwerau i wneud cynigion i—

(i)sefydlu neu derfynu ysgol sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros oedran ysgol gorfodol yn unig, neu

(ii)gwneud newid a ddisgrifir yn Atodlen 2 i ysgol, y byddai ei effaith yn golygu bod darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol yn cynyddu neu’n lleihau.

(b)cyfarwyddo corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol i arfer ei bwerau i wneud newid a ddisgrifir yn Atodlen 2 i ysgol, y byddai ei effaith yn golygu bod darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol yn cynyddu neu’n lleihau.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion, wrth roi effaith i’r cyfarwyddyd, gymhwyso unrhyw egwyddorion a bennir ynddo.]