RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 3RHESYMOLI LLEOEDD YSGOL

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chynigion o dan adran 59

I1I263Gweithredu cynigion

1

Mae cynigion sydd wedi eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 62 yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl iddynt gael eu gwneud—

a

gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu

b

yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

2

Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sy’n cael eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo o dan adran 62 ac sy’n cael effaith fel a grybwyllwyd yn is-adran (1)(b).