RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Cymeradwyo cynigion a phenderfynu arnynt
53Penderfynu
(1)
Pan nad yw’n ofynnol i unrhyw gynigion a gyhoeddir o dan adran 48 gael eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51, rhaid i’r cynigydd benderfynu a ddylid gweithredu’r cynigion.
(2)
Os na fydd penderfyniad o dan is-adran (1) wedi ei wneud cyn diwedd 16 o wythnosau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, bernir bod y cynigydd wedi tynnu’r cynigion yn eu hôl.
(3)
Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod ei benderfyniad o dan is-adran (1), rhaid i’r cynigydd hysbysu’r canlynol am y penderfyniad—
(a)
Gweinidogion Cymru;
(b)
(ac eithrio os y cynigydd yw ef) yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;
(c)
(ac eithrio os y cynigydd yw ef) corff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.