RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Cymeradwyo cynigion a phenderfynu arnynt
52Cynigion cysylltiedig
(1)
Rhaid i gynigydd anfon at Weinidogion Cymru gynigion (“cynigion B”) y mae wedi eu gwneud—
(a)
os yw o’r farn eu bod yn gysylltiedig â chynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 50 (“cynigion A”), a
(b)
os nad yw’r cynigydd wedi penderfynu a fyddai’n gweithredu cynigion B o dan adran 53 cyn bod Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo neu’n gwrthod cynigion A.
(2)
Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod cynigion B yn gysylltiedig â chynigion A, mae cynigion B i’w trin fel petai’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 50.
(3)
Rhaid i gynigydd anfon at awdurdod lleol gynigion (“cynigion D”) y mae wedi eu gwneud—
(a)
os yw o’r farn eu bod yn gysylltiedig â chynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol o dan adran 51 (“cynigion C”), a
(b)
os nad yw’r cynigydd wedi penderfynu a ddylid gweithredu cynigion D o dan adran 53 cyn bod yr awdurdod lleol yn cymeradwyo neu’n gwrthod cynigion C.
(4)
Os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod cynigion D yn gysylltiedig â chynigion C, mae cynigion D i’w trin fel petai’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 51.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gynigion eraill gael eu trin fel rhai y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 50—
(a)
os ydynt o’r farn eu bod yn gysylltiedig â chynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo ganddynt hwy o dan adran 50, a
(b)
os nad yw’r cynigydd wedi penderfynu a ddylid eu gweithredu o dan adran 53 cyn bod Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo neu’n gwrthod y cynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo.
(6)
Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gynigion eraill gael eu trin fel rhai y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 51—
(a)
os yw o’r farn eu bod yn gysylltiedig â chynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo ganddo o dan adran 51, a
(b)
os nad yw’r cynigydd wedi penderfynu a ddylid eu gweithredu o dan adran 53 cyn bod yr awdurdod lleol yn cymeradwyo neu’n gwrthod y cynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo.
(7)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i gynigion a gyfeirir i ymchwiliad lleol o dan adran 61 (ymchwiliad lleol i gynigion i resymoli lleoedd ysgol).