RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Cymeradwyo cynigion a phenderfynu arnynt
I1I251Eu cymeradwyo gan awdurdod lleol
1
Mae’n ofynnol i gynigion a gyhoeddir o dan adran 48 gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon os—
a
nad yw’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 50,
b
ydynt wedi eu gwneud gan gynigydd ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol, ac
c
yw gwrthwynebiad i’r cynigion wedi ei wneud yn unol ag adran 49(2) ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.
2
Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, rhaid i’r cynigydd anfon copi o’r dogfennau a restrir yn is-adran (3) at yr awdurdod lleol perthnasol cyn diwedd 35 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.
3
Y dogfennau yw’r canlynol—
a
yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 48(5),
b
y cynigion cyhoeddedig,
c
gwrthwynebiadau a wneir yn unol ag adran 49(2) (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl), a
d
yr ymateb a gyhoeddir o dan adran 49(3).
4
Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod lleol perthnasol—
a
gwrthod y cynigion,
b
eu cymeradwyo heb eu haddasu, neu
c
eu cymeradwyo gydag unrhyw un o’r addasiadau a bennir yn is-adran (5)—
i
ar ôl cael cydsyniad Gweinidogion Cymru a‘r cynigydd â’r addasiadau, a
ii
(ac eithrio os y cynigydd yw’r corff llywodraethu), ar ôl ymgynghori â chorff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.
5
Caiff yr awdurdod lleol perthnasol addasu—
a
y dyddiad neu’r dyddiadau a bennir yn y cynigion cyhoeddedig fel y dyddiad neu’r dyddiadau y bwriedir gweithredu’r cynigion;
b
nifer y disgyblion a bennir yn y cynigion cyhoeddedig fel y nifer sydd i’w derbyn i’r ysgol (mewn unrhyw grwp oedran ac mewn unrhyw flwyddyn ysgol).
6
Caniateir i gymeradwyaeth ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.
7
Caiff yr awdurdod lleol perthnasol, ar gais y cynigydd, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae’r digwyddiad y cyfeiriwyd ato yn is-adran (6) i ddigwydd.
8
Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol wneud penderfyniad o dan is-adran (4) p’un ai i wrthod neu i gymeradwyo’r cynigion cyn diwedd y cyfnod o 16 o wythnosau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.
9
Nid yw is-adran (1) yn atal cynigion rhag cael eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y cynigydd i’r awdurdod lleol perthnasol ar unrhyw bryd cyn iddynt gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon.
10
Nid yw’n ofynnol i gynigion a wneir o dan adran 43 neu 44 i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56) gael unrhyw gymeradwyaeth o dan yr adran hon.
11
Yn yr adran hon ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.