RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Ymyrraeth gan awdurdod lleol

5Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydlafurio

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)

Caiff yr awdurdod lleol, gyda golwg ar wella perfformiad yr ysgol, gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—

(a)

ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig (a gaiff fod yn gorff llywodraethu ysgol arall) i ddarparu i’r corff llywodraethu wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur;

(b)

arfer y pwerau o dan adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (pwerau cydlafurio) a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 6 o’r Mesur hwnnw.

(3)

Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)

corff llywodraethu’r ysgol, a

(b)

yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)

y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)

Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.