RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Newidiadau categori
46Cyfyngiadau ar newid categori ysgol
(1)
Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caiff ysgol a gynhelir o fewn un o’r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ddod yn ysgol o fewn un arall o’r categorïau hynny (ac eithrio ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig).
(2)
Ni chaiff ysgol newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir oni fydd corff llywodraethu’r ysgol yn bodloni Gweinidogion Cymru y byddai’n gallu cyflawni ei rwymedigaethau o dan Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (cyllido ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir) am gyfnod o bum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y cynigir bod y newid categori yn digwydd.
(3)
Ni chaiff ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig ddod yn ysgol gymunedol onid ydys wedi ymrwymo i unrhyw gytundeb trosglwyddo ac unrhyw gytundeb i drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau sy’n ofynnol o dan Ran 3 o Atodlen 4.