Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

43Cynigion i derfynu ysgolion prif ffrwdLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i derfynu—

(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu

(b)ysgol feithrin a gynhelir.

(2)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wneud cynigion i derfynu’r ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 43 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(a) (ynghyd ag ergl. 4)