RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir
42Cynigion i newid ysgolion prif ffrwd
(1)
Caiff awdurdod lleol wneud cynigion—
(a)
i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol gymunedol;
(b)
gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 (agor neu gau chweched dosbarth ysgol) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig;
(c)
i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 10, 11, 12 neu 13 o Atodlen 2 (cynyddu a lleihau capasiti) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig os nad oes gan yr ysgol honno gymeriad crefyddol;
(d)
i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol feithrin a gynhelir.
(2)
Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wneud cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i’r ysgol.