RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION

Sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir

41Cynigion i sefydlu ysgolion prif ffrwd

(1)

Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i sefydlu—

(a)

ysgol gymunedol newydd, neu

(b)

ysgol feithrin newydd a gynhelir.

(2)

Caiff unrhyw berson wneud cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol newydd.