RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION
Sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir
40Cyfyngu ar sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir
(1)
Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caniateir i ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol newydd gael ei sefydlu yng Nghymru.
(2)
Ni chaniateir i ysgol sefydledig nac ysgol arbennig sefydledig newydd gael ei sefydlu yng Nghymru.
(3)
Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caniateir i ysgol a gynhelir gael ei therfynu.
(4)
Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caniateir i newid gael ei wneud i ysgol a gynhelir sy’n newid rheoleiddiedig mewn perthynas â’r math o ysgol o dan sylw. (5) Ni chaniateir i unrhyw newid gael ei wneud i ysgol a gynhelir sy’n newid cymeriad crefyddol yr ysgol neu’n peri i ysgol gaffael neu golli ei chymeriad crefyddol.
(6)
Mae is-adran (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 16(5) (pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cau).
(7)
Mae Atodlen 2 (sy’n disgrifio newidiadau rheoleiddiedig) yn cael effaith.