RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 1COD TREFNIADAETH YSGOLION

38Cod Trefniadaeth Ysgolion

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod am drefniadaeth ysgolion (“y Cod”), a chaniateir iddynt ei ddiwygio o dro i dro.

(2)

Mae’r Cod i gynnwys darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r personau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)

Gweinidogion Cymru;

(b)

awdurdodau lleol;

(c)

cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;

(d)

personau eraill mewn cysylltiad â chynigion a wneir (neu sydd i’w gwneud) ganddynt o dan y Rhan hon.

(3)

Caiff y Cod osod gofynion, a chaiff gynnwys canllawiau sy’n nodi nodau, amcanion a materion eraill.

(4)

Rhaid i’r personau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (2), wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon—

(a)

gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol a gynhwysir yn y Cod, a

(b)

rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a gynhwysir ynddo.

(5)

Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (4) yn gymwys hefyd i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddibenion cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan—

(a)

Gweinidogion Cymru,

(b)

awdurdod lleol,

(c)

corff llywodraethu ysgol a gynhelir, neu

(d)

personau eraill mewn cysylltiad â chynigion a wneir (neu sydd i’w gwneud) ganddynt o dan y Rhan hon.

(6)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ar eu gwefan y Cod sydd mewn grym am y tro.

(7)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ar wahân (drwy gyfrwng codau ar wahân) mewn perthynas â swyddogaethau gwahanol o dan y Rhan hon sy’n perthyn i’r personau a grybwyllwyd yn is-adran (2).

(8)

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at “y Cod” neu at swyddogaethau o dan y Rhan hon yn cael effaith, mewn perthynas â chod ar wahân, fel cyfeiriadau at y cod hwnnw neu at swyddogaethau o dan y Rhan hon y mae’n ymwneud â hwy.