RHAN 2SAFONAU
PENNOD 3CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION
37Cyfarwyddiadau
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn credu, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddir gan awdurdod ysgol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yn debyg o wella safon yr addysg a ddarperir yn yr ysgol y mae’r datganiad polisi yn ymwneud â hi.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod ysgol i gymryd unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer ei swyddogaethau yn unol â’r canllawiau gwella ysgolion a ddyroddir i’r awdurdod yn unol â’r Bennod hon.
(3)
Rhaid i awdurdod ysgol sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gydymffurfio ag ef.
(4)
Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod ysgol.
(5)
O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—
(a)
rhaid iddo gael ei roi’n ysgrifenedig;
(b)
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;
(c)
gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.