RHAN 2SAFONAU
PENNOD 3CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION
36Datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol
(1)
Rhaid i ddatganiad polisi a ddyroddir o dan adran 35(2) neu (3) nodi—
(a)
sut mae’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu (yn ôl y digwydd) yn cynnig y dylai swyddogaethau gael eu harfer yn wahanol i’r llwybr a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion, a
(b)
rhesymau’r awdurdod neu’r corff dros gynnig y llwybr gwahanol hwnnw.
(2)
Caiff awdurdod neu gorff sydd wedi dyroddi datganiad polisi—
(a)
dyroddi datganiad polisi diwygiedig;
(b)
rhoi hysbysiad sy’n dirymu datganiad polisi.
(3)
Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig am bolisi) ddatgan—
(a)
ei fod wedi ei ddyroddi o dan adran 35(2) neu (3) (yn ôl y digwydd), a
(b)
y dyddiad y mae i ddod yn weithredol arno.
(4)
Rhaid i’r awdurdod neu’r corff sy’n dyroddi datganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig am bolisi), neu sy’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)(b)—
(a)
trefnu bod datganiad neu hysbysiad yn cael ei gyhoeddi;
(b)
anfon copi o unrhyw ddatganiad neu hysbysiad at Weinidogion Cymru.