Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

35Dyletswydd i ddilyn canllawiau gwella ysgolionLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod ysgol ddilyn y llwybr a nodir mewn canllawiau gwella ysgolion a ddyroddir iddo yn unol â’r Bennod hon pan fydd yn arfer pŵer neu ddyletswydd (gan gynnwys pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod ysgol); ond mae hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon.

(2)Nid yw awdurdod ysgol sy’n awdurdod lleol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) cyhyd—

(a)â bod yr awdurdod yn meddwl bod rheswm da iddo beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau achos penodol neu beidio â’u dilyn o gwbl,

(b)â’i fod yn penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phwnc y canllawiau, ac

(c)â bod effaith i ddatganiad polisi a ddyroddir gan yr awdurdod yn unol ag adran 36.

(3)Nid yw awdurdod ysgol sy’n gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu’n bennaeth arni yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) cyhyd â bod—

(a)y corff llywodraethu’n meddwl bod rheswm da iddo ef neu’r pennaeth beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau achos penodol neu beidio â’u dilyn o gwbl,

(b)y corff llywodraethu’n penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau neu rai’r pennaeth mewn cysylltiad â phwnc y canllawiau, ac

(c)effaith i ddatganiad polisi a ddyroddir gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 36.

(4)Pan fo is-adran (2) neu (3) yn gymwys yn achos awdurdod ysgol—

(a)rhaid i’r awdurdod ddilyn y llwybr a nodir yn y datganiad polisi, a

(b)dim ond i’r graddau nad yw pwnc y canllawiau gwella ysgolion wedi ei ddisodli gan y datganiad polisi y mae’r awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1).

(5)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (4) yn gymwys i awdurdod ysgol i’r graddau y byddai’n afresymol i’r awdurdod ddilyn y canllawiau gwella ysgolion neu’r datganiad polisi mewn achos penodol neu gategori penodol o achos.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 mewn grym ar 4.5.2013, gweler a. 100(3)