Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

31Pwerau mynd i mewn ac arolyguLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ar bob adeg resymol mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2)—

(a)hawl i fynd i mewn i fangre’r awdurdod lleol o dan sylw ac unrhyw ysgol a gynhelir ganddo;

(b)hawl i arolygu unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod neu unrhyw ysgol a gynhelir ganddo, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth ynglyn â’r awdurdod neu unrhyw ysgol o’r fath, y mae’r person yn barnu eu bod yn berthnasol i’r modd y mae swyddogaethau yn cael eu harfer gan y person o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon ac i wneud copïau o unrhyw gofnodion neu ddogfennau o’r fath.

(2)Y personau canlynol sy’n dod o fewn yr is-adran hon—

(a)y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 24 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth ar bersonau, y person y mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo gydag ef i’r contract neu’r trefniant arall sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd;

(b)y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 25;

(c)Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 26;

(d)y person a enwebir drwy gyfarwyddyd o dan adran 26.

(3)Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill, mae person (“P”)—

(a)yn meddu ar yr hawl i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael neu sydd wedi bod yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu’r dogfennau eraill sydd o dan sylw, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad, a

(b)yn cael ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol roi unrhyw gymorth y mae ar P angen rhesymol amdano (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, trefnu bod gwybodaeth ar gael i’w harolygu neu ei chopïo ar ffurf ddarllenadwy)—

(i)y person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur felly ganddo neu ar ei ran;

(ii)unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’i weithredu.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.

(5)Yn yr adran hon mae’r termau “dogfen” a “cofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2004 c. 31, a. 50A(3) (fel y’i mewnosodwyd ganDeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 7(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C2Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2006 c. 21, a. 29 (fel e'i amnewid gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 10; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C3Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 1996 c. 56, a. 560(6) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(7); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C4Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(4) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C5Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei eithrio (20.2.2014) gan 1996 c. 56, a. 484(7) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C6Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 1998 c. 30, a. 19(13) (fel e'i amnewid (C.) ganDeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 3; O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C7Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2004 c. 31, a. 50A(1)(2) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 7(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C8Rhn. 2 Pnd. 2 excluded (20.2.2014) gan 1996 c. 56, Atod. 1 para. 6(4) (fel y'i diwygiwyd (C.) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 2(8); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C9Rhn. 2 Pnd. 2 cymhwyswyd (ynghyd â addasiadau) (20.2.2014) gan 2010 c. 15, a. 87(3)(b) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 11(3); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

C10Rhn. 2 Pnd. 2 wedi ei addasu (20.2.2014) gan 2005 c. 18, a. 114(8)(c) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 8(3)(c); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 31 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)