RHAN 2SAFONAU

PENNOD 2YMYRRYD MEWN AWDURDODAU LLEOL

Pwerau ymyrryd

26Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu cyflawni gan awdurdod lleol.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt.

(3)

Os yw cyfarwyddyd wedi ei wneud o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.

F1(4)

Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.