RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Darpariaethau atodol

19Cyfarwyddiadau

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu bennaeth sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan y Bennod hon gydymffurfio ag ef.

(2)

Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn y corff llywodraethu neu’r pennaeth.

(3)

O ran cyfarwyddyd o dan y Bennod hon—

(a)

rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)

caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)

gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais gan, neu ar ran, y person a roes y cyfarwyddyd.