RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

16Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir ar dir sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r ysgol gael ei therfynu ar ddyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)

Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)

yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,

(b)

corff llywodraethu’r ysgol,

(c)

yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)

y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol, ac

(d)

unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)

Wrth roi cyfarwyddyd i derfynu’r ysgol, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig hefyd am y cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r ysgol a’i phennaeth.

(5)

Pan fo cyfarwyddyd yn cael ei roi i’r awdurdod lleol o dan is-adran (2), rhaid iddo derfynu’r ysgol o dan sylw ar y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd; ac nid oes dim yn Rhan 3 sy’n gymwys i derfynu’r ysgol o dan yr adran hon.

(6)

Yn yr adran hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn cyfeirio at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.