RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

15Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgolion yn cael eu ffedereiddio

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir (“yr ysgol sy’n peri pryder”).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw un o’r personau canlynol i ddarparu ar gyfer un neu fwy o’r trefniadau a nodir yn is-adran (3)—

(a)

awdurdod lleol;

(b)

corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(c)

corff llywodraethu ffederasiwn.

(3)

Dyma’r trefniadau—

(a)

ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(b)

ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes;

(c)

ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(d)

pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(e)

pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes;

(f)

pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(g)

pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, bod yr ysgol yn ymadael â’r ffederasiwn hwnnw.

(4)

Cyn rhoi cyfarwyddiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)

yr awdurdod lleol,

(b)

y cyrff llywodraethu sydd o dan sylw, ac

(c)

yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)

y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)

Yn yr adran hon mae i “ffederasiwn” yr ystyr a roddir gan adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011.