xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CSAFONAU

Valid from 20/02/2014

PENNOD 1LL+CYMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Ymyrraeth gan Weinidogion CymruLL+C

15Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgolion yn cael eu ffedereiddioLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir (“yr ysgol sy’n peri pryder”).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw un o’r personau canlynol i ddarparu ar gyfer un neu fwy o’r trefniadau a nodir yn is-adran (3)—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(c)corff llywodraethu ffederasiwn.

(3)Dyma’r trefniadau—

(a)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(b)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes;

(c)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(d)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(e)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes;

(f)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(g)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, bod yr ysgol yn ymadael â’r ffederasiwn hwnnw.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol,

(b)y cyrff llywodraethu sydd o dan sylw, ac

(c)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Yn yr adran hon mae i “ffederasiwn” yr ystyr a roddir gan adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)