RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

14Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfansoddi corff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru ysgrifennu at gorff llywodraethu’r ysgol i’w hysbysu bod y corff llywodraethu, o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, i’w gyfansoddi’n unol ag Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim).

(3)

Cyn rhoi hysbysiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)

yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,

(b)

corff llywodraethu’r ysgol, ac

(c)

yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)

y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)

Nid yw Gweinidogion Cymru yn gorfod ymgynghori â’r personau a grybwyllwyd yn isadran (3)(b) ac (c) os yw’r awdurdod lleol wedi ymgynghori â hwy am gyfansoddiad corff llywodraethu o dan adran 7 ar sail pŵer i ymyrryd y daethpwyd ag ef i ben drwy effaith adran 4(9)(b) neu (c).