RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

13Pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwelant yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.

(4)

Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)

y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)

os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)

Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(6)

Bydd llywodraethwr a enwebir gan Weinidogion Cymru i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(7)

Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.

(8)

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas ag unrhyw ysgol—

(a)

ni chaiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith 1998, a

(b)

os yw’r awdurdod lleol eisoes wedi arfer y pŵer hwnnw neu ei bwer o dan adran 8, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu’r ataliad dros dro.

(9)

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pwerau o dan yr adran hon mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, nid oes dim mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 i’w ddarllen fel petai’n awdurdodi penodi llywodraethwyr sefydledig er mwyn eu gwneud yn fwy niferus na’r llywodraethwyr eraill fel y bydd eu nifer hwy wedi ei gynyddu gan y rhai a gaiff eu penodi gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(10)

O ran dirymu ataliad dros dro o dan is-adran (8)(b)—

(a)

rhaid i’r awdurdod lleol gael ei hysbysu’n ysgrifenedig amdano, a

(b)

daw’n weithredol o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.