RHAN 2SAFONAU
PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR
Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru
10Hysbysiad rhybuddio
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir—
(a)
os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a
(b)
os yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol naill ai—
(i)
heb roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu o dan adran 3 ar un neu fwy o’r seiliau hynny, neu
(ii)
wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, ond yn nhermau sy’n annigonol ym marn Gweinidogion Cymru.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—
(a)
y seiliau dros ymyrryd;
(b)
y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;
(c)
y camau y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;
(d)
y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan y corff llywodraethu (“y cyfnod cydymffurfio”);
(e)
y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd y corff llywodraethu yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.
(3)
Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddynt yr un pryd ag y byddant yn rhoi’r hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu roi copi o’r hysbysiad rhybuddio i—
(a)
yr awdurdod lleol;
(b)
y pennaeth;
(c)
os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—
(i)
y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(ii)
os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.