Mesur Byrddau Addysg Esgobaethol 1991LL+C
15(1)Mae Mesur Byrddau Addysg Esgobaethol 1991 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 3 (gweithrediadau pan fo cyngor neu gydsyniad y Bwrdd yn ofynnol)—
(a)hepgorer is-adran (1)(a)(ii), (b)(ii) a (d);
(b)yn is-adran (1)(c) yn lle “1998 Act” rhodder “School Standards and Framework Act 1998 (“the 1998 Act”)”.
(3)Yn adran 7 (pwerau’r Bwrdd i roi cyfarwyddiadau i gyrff llywodraethu ysgolion eglwysig gwirfoddol a gynorthwyir)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)hepgorer paragraffau (a)(ii), (b)(ii) ac (c);
(ii)ym mharagraff (b)(i) yn lle “1998 Act” rhodder “School Standards and Framework Act 1998”;
(b)yn is-adran (1A) hepgorer “or paragraph 2 or 3 of Schedule 8 to the 1998 Act”;
(c)yn is-adran (3)—
(i)ym mharagraff (a) hepgorer “or section 28(2)(b) of the 1998 Act”;
(ii)hepgorer paragraff (b);
(iii)yn y geiriau ar ôl paragraff (b) hepgorer “the 1998 Act and”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 5 para. 15 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)