ATODLEN 5MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
RHAN 1DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 2 (SAFONAU)
Mesur Addysg (Cymru) 2011
13
(1)
Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer adran 16 (ffedereiddio ysgolion sy’n peri pryder drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru).
(3)
Yn adran 18(1) (ffederasiynau: darpariaethau atodol)—
(a)
yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)
Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir), neu”;
(b)
ym mharagraff (b) yn lle “o’r Ddeddf honno” rhodder “o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998”.