ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 4ATODOL

38Llywodraethu ysgol

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweithredu cynigion i newid categori ysgol o ran llywodraethu’r ysgol.

2

Caiff y rheoliadau hynny (ymysg pethau eraill) wneud darpariaeth—

a

ynghylch adolygu a disodli offeryn llywodraethu’r ysgol,

b

ynghylch ailgyfansoddi ei chorff llywodraethu,

c

sy’n cymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, darpariaeth a wnaed gan neu o dan Bennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Addysg 2002 (llywodraethu ysgolion a gynhelir), a

d

ynghylch materion trosiannol.

39Darpariaethau trosiannol - derbyniadau

1

Pan fo ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod lleol fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (trefniadau derbyn) yn cael effaith, o’r dyddiad gweithredu ymlaen, fel pe bai wedi ei wneud gan y corff llywodraethu.

2

Pan fo ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn dod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a reolir mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith, o’r dyddiad gweithredu ymlaen, fel pe bai wedi ei wneud gan yr awdurdod lleol.