ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 2TROSGLWYDDO STAFF

Newid i ysgol wirfoddol a gynorthwyir

3

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yn newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(2)

Mae’r contract cyflogaeth rhwng P a’r awdurdod lleol yn cael effaith o’r dyddiad gweithredu fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng P a’r corff llywodraethu.

(3)

Caiff holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau’r awdurdod lleol o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef eu trosglwyddo i’r corff llywodraethu ar y dyddiad gweithredu.

(4)

Mae unrhyw beth a gafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw gan yr awdurdod lleol neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â’r contract hwnnw neu â P i’w drin o’r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe bai wedi ei wneud gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef.

(5)

Yn y paragraff hwn, “P” yw person sydd—

(a)

yn union cyn y dyddiad gweithredu yn gyflogedig gan yr awdurdod lleol i weithio dim ond yn yr ysgol o dan sylw, neu

(b)

cyn y dyddiad gweithredu, wedi ei benodi gan yr awdurdod lleol i weithio yn yr ysgol o’r dyddiad gweithredu ymlaen neu ar ddyddiad diweddarach.

(6)

Ond nid yw cyfeiriad at “P” yn cynnwys—

(a)

person y mae ei gontract cyflogaeth yn terfynu ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu, neu

(b)

person a gyflogir gan yr awdurdod lleol i weithio yn yr ysgol dim ond mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd.

(7)

Nid yw’r paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl gan gyflogai i derfynu’r contract os gwneir (ar wahân i newid cyflogwr) newid sylweddol sy’n niweidiol i amodau gwaith y cyflogai.