ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
Trosglwyddo hawl i ddefnyddio tir
29
(1)
Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)
os yw paragraff 14, 15, 19, 20, 24 neu 25 yn gymwys i ysgol,
(b)
os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i unrhyw ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac
(c)
os oedd yr ymddiriedolwyr neu’r corff sefydledig yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â defnydd o’r tir.
(2)
Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau.
(3)
Ystyr “cytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau” yw cytundeb—
(a)
a wnaed at ddibenion is-baragraff (2) rhwng yr awdurdod lleol a’r ymddiriedolwyr neu’r corff sefydledig, a
(b)
sy’n darparu i’r hawliau neu’r rhwymedigaethau o dan sylw gael eu trosglwyddo i’r awdurdod a chael eu breinio ynddo ar y dyddiad gweithredu, p’un a ydyw mewn cydnabyddiaeth o daliad ai peidio gan yr awdurdod o swm y cytunir arno rhwng y partïon.