ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3TROSGLWYDDO TIR

Trosglwyddo hawl i ddefnyddio tir

27

(1)

Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)

os yw paragraff 10, 11, 12 neu 13 yn gymwys i ysgol,

(b)

os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i awdurdod lleol, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac

(c)

os oedd yr awdurdod lleol yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â defnydd o’r tir.

(2)

Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, ac os nad oes ymddiriedolwyr, y corff llywodraethu.