ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3TROSGLWYDDO TIR

I1I223Newid o ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir i ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir

1

Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

a

pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a

b

o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig arall yn gweithredu drosto.

2

Mae unrhyw dir, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a) at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), ac i’w freinio ynddo.