ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
Newid o ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir i ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir
21
(1)
Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)
pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a
(b)
o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.
(2)
Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig, ac i’w freinio ynddo.