ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 3TROSGLWYDDO TIR
Newid o ysgol sefydledig i ysgol gymunedol
15
(1)
Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.
(2)
Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.
(3)
Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sefydledig, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.