xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 04/05/2013

Valid from 01/10/2013

ATODLEN 4LL+CGWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 3LL+CTROSGLWYDDO TIR

Newid o ysgol gymunedol i ysgol wirfoddol a gynorthwyirLL+C

11(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae neu dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig ac i’w freinio ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)