ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL
RHAN 1CYFLWYNIAD
I1I21Dehongli
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cytundeb trosglwyddo” (“transfer agreement”) mewn perthynas ag ysgol yw cytundeb—
- a
a wnaed rhwng yr awdurdod lleol ac ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig neu gorff llywodraethu’r ysgol, a
- b
sy’n darparu bod tir yn cael ei drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac yn cael ei freinio ynddo ar y dyddiad gweithredu (p’un a fu cydnabyddiaeth drwy daliad ai peidio gan yr awdurdod);
- a
“y dyddiad gweithredu” (“the implementation date”) yw’r dyddiad y cynigir y bydd y newid categori yn digwydd;
mae i “grwp” yr ystyr a roddir i (“group”) gan adran 21(4)(b) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “tir wedi ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly funded land”) yw tir a gafodd ei gaffael—
- a
oddi wrth awdurdod lleol o dan drosglwyddiad o dan adran 201(1)(a) o Ddeddf Addysg 1996,
- b
yn gyfan gwbl drwy gyfrwng grant cynnal, grant diben arbennig neu grant cyfalaf (o fewn ystyr Pennod 6 o Ran 3 o Ddeddf Addysg 1996),
- c
yn gyfan gwbl drwy gyfrwng grant a wnaed o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 4 o Atodlen 32 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998,
- d
yn gyfan gwbl drwy gyfrwng gwariant a wnaed at ddibenion yr ysgol ac a gafodd ei drin gan yr awdurdod lleol fel gwariant o natur cyfalaf,
- e
o dan drosglwyddiad o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998,
- f
yn gyfan gwbl drwy gyfrwng cymorth ariannol a roddwyd o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002,
- g
o dan drosglwyddiad o dan yr Atodlen hon, neu
- h
yn gyfan gwbl drwy enillion wrth waredu unrhyw dir a gafodd ei gaffael fel a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g).
- a